Sut mae ychwanegu pennod o lyfr i Aspire?

  • Cliciwch ar deitl y llyfr ac yna cliciwch ar y botwm Llyfrnod Aspire  neu eicon estyniad Talis  yn ffenestr eich porwr (Sut mae gwneud hynny?). 

  • Cliciwch Golygu adnodd

  • Cliciwch Rhan: Erthygl, Pennod, ac ati ar ochr dde’r sgrin. 

  • Dewiswch Pennod fel y math o adnodd ac ychwanegwch deitl y bennod i’r bocs Teitl
  • Llenwch unrhyw feysydd ychwanegol sy’n berthnasol i’r bennod yn ôl yr angen, e.e. ystod y tudalennau, trwy eu dewis o'r adran Ychwanegu yr holl feysydd sy’n berthnasol ar ochr dde'r sgrin.  Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n clicio Ychwanegu at yr adnodd 'rhan' er mwyn eu hychwanegu at adran bennod eich adnodd yn hytrach nag adran y llyfr. 
  • Cliciwch ar Cadw yn Fy Nodau Tudalen.

  • Os yw'r rhestr rydych chi am ychwanegu'r adnodd ati yn dangos ar y dde, cliciwch ar Ychwanegu at y rhestr. Os nad yw'n bresennol, teipiwch y rhestr yn y bar chwilio a bydd yn ymddangos, cliciwch ar Ychwanegu at y rhestr. (Rhaid i chi sicrhau bod y rhestr ddarllen sydd ei hangen arnoch eisoes wedi’i neilltuo i’ch adran ‘Fy Rhestrau’ (Sut mae gwneud hynny?).

  • Rhaid i chi ddewis lefel Mhwysigrwydd o'r gwymplen. Gallwch ddewis lleoliad yr adnodd ar y rhestr gan ddefnyddio'r cwymplenni Dewis safle ar y rhestr. Gellir ychwanegu nodiadau ar gyfer y llyfrgell a'r myfyrwyr yn yr adran Nodiadau.
  • Unwaith y bydd yr uchod wedi'i gwblhau, cliciwch ar Gorffen.
Library, Aberystwyth University, Hugh Owen Library, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Tel: 01970 62 2020 Email: library@aber.ac.uk