Pam na allaf rwystro cyfeiriadau aber.ac.uk rhag anfon e-bost ataf?

Mae'r Brifysgol yn darparu cyfeiriad e-bost ar gyfer staff a myfyrwyr fel y gellir anfon gwybodaeth bwysig sy'n effeithio ar eu rôl, eu hastudiaethau a'u bywyd ar y campws.

Gall blocio cyfeiriad @aber.ac.uk gan nad yw e-bost penodol yn ymddangos yn berthnasol i chi olygu eich bod yn colli allan ar wybodaeth bwysig a anfonir o'r cyfeiriad e-bost hwnnw hefyd. Am y rheswm hwn, nid yw staff a myfyrwyr yn gallu rhwystro cyfeiriadau @aber.ac.uk.

Os ydych yn derbyn llawer iawn o negeseuon e-bost nad yw'n berthnasol i chi o gyfeiriad penodol, cysylltwch â gg@aber.ac.uk.

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk