Sut mae cael mynediad i'm hadroddiad Offeryn Darganfod Digidol a'i lawrlwytho fel ffeil PDF?
Noder: Bydd mynediad i'r Offeryn Darganfod Digidol yn dod i ben ar 31 Gorffennaf 2024. Rydym yn argymell bod myfyrwyr a staff yn lawrlwytho copïau o'u hadroddiadau Offeryn Darganfod Digidol cyn y dyddiad hwn.
- Ar ôl i chi gael mynediad i ddangosfwrdd yr Offeryn Darganfod Digidol, cliciwch ar y bwtwn Fy nghynwys (My Content).
- O dan Adroddiadau (Reports), dewiswch Asesiadau (Assessments)
- Bydd eich holl adroddiadau yn ymddangos yma. Cliciwch Gweld Adroddiadau (View Reports).
- Os ydych wedi cwblhau'r un holiadur fwy nag unwaith, gallwch weld pob adroddiad rydych wedi'i gwblhau ar wahanol ddyddiadau.
- Ar ôl i chi agor eich adroddiad, gallwch ei lawrlwytho fel PDF drwy glicio ar yr eicon PDF (wedi'i leoli ar ochr dde uchaf y sgrin).
Library, Aberystwyth University, Hugh Owen Library, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Tel: 01970 62 2020 Email: library@aber.ac.uk
Tel: 01970 62 2020 Email: library@aber.ac.uk