Sut mae diweddaru fy VPN i ddefnyddio'r gwasanaeth newydd (pob dyfais)?

Mae’r gwasanaeth vpn pa-vpn.aber.ac.uk yn cael ei ddisodli gan gwasanaeth newydd. Cyfeiriad y gwasanaeth newydd yw gp-vpn.aber.ac.uk

I ddiweddaru'ch VPN i ddefnyddio'r gwasanaeth newydd, bydd angen i chi newid cyfeiriad y porth yng ngosodiadau ap GlobalProtect:

  • Agorwch yr app GlobalProtect fel yr oeddech chi'n mynd i gysylltu
  • Yn lle cysylltu, cliciwch ar yr eicon yn y gornel uchaf gyda 3 bar
  • Agor Settings
  • Cliciwch neu tapiwch ar pa-vpn.aber.ac.uk a chliciwch edit
  • Newidiwch y cyfeiriad i gp-vpn.aber.ac.uk
  • Cliciwch Save neu Connect yn dibynnu ar eich dyfais

Mae'r gwasanaeth newydd yn defnyddio'r un dilysiad â'ch e-bost ac ni fydd angen i chi ddefnyddio'r codau yr oeddech yn eu defnyddio o'r blaen ar gyfer yr hen borth mwyach

Os nad yw diweddaru'r porth yn gweithio, bydd angen i chi ddiweddaru i'r fersiwn ddiweddaraf o GlobalProtect trwy ei sefydlu eto

IT Service Desk, Aberystwyth University, Hugh Owen Library, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Tel: 01970 62 2400 Email: is@aber.ac.uk