Sut ydw i'n gosod GlobalProtect VPN (Linux)?
- Lawrlwythwch GlobalProtect ar gyfer linux o'r dudalen lawrlwytho meddalwedd yma
- Dylech wirio a yw'ch system weithredu yn gydnaws ar y dudalen Global Protect Compatability
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis y pecyn priodol ar gyfer eich fersiwn o Linux ar ôl i chi ddadbacio'r ffeil tar. Bydd angen i chi osod y fersiwn GUI o GlobalProtect neu ni fyddwch yn gallu dilysu wrth gysylltu. Dewiswch y ffeil gyda UI yn yr enw
- Defnyddir ffeiliau .deb ar Debian ac Ubuntu
- Defnyddir ffeiliau .rpm ar RedHat
- Gosodwch y Fersiwn GUI o'r app GlobalProtect:
- Ar gyfer Debian a Ubuntu, defnyddiwch y gorchymyn gosod sudo apt-get
- e.e. sudo dpkg -i GlobalProtect_UI_deb-6.0.1.1-6.deb
- Ar gyfer Debian a Ubuntu, defnyddiwch y gorchymyn gosod sudo apt-get
- Ar ôl gosod, dylai GlobalProtect agor yn awtomatig. Rhowch y cyfeiriad porth gp-vpn.aber.ac.uk a chysylltu
- Mewngofnodwch gyda'ch cyfeiriad e-bost Prifysgol llawn a'ch cyfrinair
- Gofynnir i chi am yr un dilysiad 2-gam a ddefnyddiwch ar gyfer eich e-bost
- I gael cyfarwyddiadau llawn, gweler tudalen dogfennaeth Palo Alto
Sylwch: Mae'r Ap GlobalProtect yn casglu data ar eich system weithredu. Rydym yn casglu'r wybodaeth hon i broffilio dyfeisiau sy'n cysylltu â'n rhwydwaith ar gyfer bwrpasau diogelwch. Mae hyn yn cynnwys gwirio bod y system weithredu a'r feddalwedd sydd wedi'i gosod yn gyfredol a bod diogelwch gwrth-feirws wedi'i alluogi.
Gweler dogfennaeth GlobalProtect am fanylion llawn ar ba ddata y mae'r Ap GlobalProtect yn ei gasglu ar bob system weithredu:
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk