Sut ydw i'n gwrando ar sianel y cyfieithu Teams?
- I wrando ar sianel y cyfieithydd, ymunwch â'r cyfarfod.
- Byddwch yn cael y neges Choose language/Dewiswch iaith yn y ffenestr uchaf:
- Dewiswch o’r gwymplen yr iaith rydych chi am wrando arni (e.e. os nad ydych yn siarad Cymraeg, dewis English/Saesneg).
- Cadarnhewch eich dewis.
- Os oes angen i chi ddechrau gwrando ar y sianel gyfieithu yng nghanol cyfarfod neu ar ôl i’r opsiwn cyfieithu ar y pryd diflannu, ewch i More/Mwy ar eich bar tasgau:
- Dewiswch Language Interpretation/Cyfieithu ar y Pryd a dilynwch y camau uchod i ddewis eich iaith.
-
I newid yn ôl i iaith y cyfarfod:
- Dewiswch More/Mwy o'r bar tasgau a dewiswch Language Interpretation/Cyfieithu ar y Pryd.
- O'r gwymplen, dewiswch Original Language/Iaith Wreiddiol.
- Cliciwch Confirm/Cadarnhau.
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk