Beth mae rhwydwaith gyfrifiadurol o dan fygythiad am gyfnod ar ddydd Mawrth yn ei olygu?

Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth yn gyfrifol am weithredu a chynnal llawer iawn o Isadeiledd TG sy'n hanfodol i redeg y Brifysgol.

O bryd i'w gilydd, mae angen i staff TG wneud newidiadau neu uwchraddio'r Isadeiledd hwn i sicrhau ei fod yn ddiogel, yn sefydlog ac yn addas ar gyfer anghenion busnes parhaus.

Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl tra bod newidiadau'n digwydd, mae boreau Mawrth rhwng 07:00 a 10:00 wedi'u dynodi'n ffenestri cynnal a chadw pwrpasol.

Yn ystod yr amseroedd hyn, bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn gwneud gwaith a allai olygu bod gwasanaethau'n mynd all-lein am gyfnod tra bod y gwaith uwchraddio'n digwydd.

Felly, dylai staff a myfyrwyr ystyried bod pob gwasanaeth ‘mewn perygl’ yn ystod y cyfnodau hyn. Rhoddir rhybudd ymlaen llaw os yw'r gwaith arfaethedig yn debygol o effeithio ar wasanaethau ar ôl 10:00.

Mae'r holl waith cynnal a chadw yn cael ei hysbysebu drwy'r dudalen Statws Gwasanaeth GG. Ar y dudalen hon, gallwch weld y diweddariadau diweddaraf gan y Gwasanaethau Gwybodaeth ynghylch cynnal a chadw gwasanaethau, yn ogystal â thanysgrifio i ddiweddariadau e-bost.

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk