Defnyddio storfeydd USB

Bob blwyddyn mae Prifysgol Aberystwyth yn cael ei harchwilio i sicrhau digonolrwydd ac effeithiolrwydd gweithredu ei rheolaethau i lywodraethu, nodi, canfod ac amddiffyn rhag digwyddiadau a thoriadau seiberddiogelwch.

Mae’r archwilwyr wedi nodi bod defnyddio dyfeisiau storio USB yn risg bosibl gan y gallai’r rhain arwain at drosglwyddo meddalwedd maleisus i rwydwaith y Brifysgol neu unigolion yn trosglwyddo gwybodaeth sensitif y tu allan i’r Brifysgol

Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheoliadau TG, bydd y defnydd o ddyfeisiau storio USB yn cael ei analluogi ar gyfer staff mewn adrannau yn unol â'r amserlen ganlynol:

PS03 Gwasanaethau Myfyrwyr Wedi ei gwblhau
SD01 Cofrestrfa Academaidd Wedi ei gwblhau
SD09 Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus Wedi ei gwblhau
SD20 Adran Gyllid Wedi ei gwblhau
SD25 Adnoddau Dynol Wedi ei gwblhau
SD26 Gwasanaethau Gwybodaeth Wedi ei gwblhau
SD30 Swyddfa Gynllunio Wedi ei gwblhau
SD36 Swyddfa'r Is-Ganghellor Wedi ei gwblhau
SD52 Llywodraethu Wedi ei gwblhau

Bydd caledwedd sy'n defnyddio cysylltiadau USB yn parhau i weithio, e.e.clustffonau, meicroffonau, allweddellau, llygod.

Gall staff sydd angen defnyddio storfa ddata USB gan nad oes datrysiad arall ar gael ofyn i'w Pennaeth Adran ofyn am eithriad gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein

IT Service Desk, Aberystwyth University, Hugh Owen Library, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Tel: 01970 62 2400 Email: is@aber.ac.uk