Sut ydw i'n defnyddio'r peiriant hunan-fenthyca?

Mae peiriannau hunan-fenthyca ar gael yn Llyfrgelloedd Hugh Owen a Gwyddorau Ffisegol

I ddefnyddio'r peiriant:

  • Rhowch eich llyfrau ar y pad (gallwch osod nifer o eitemau ar yr un pryd)
  • Dangoswch eich Cerdyn Aber i'r darllenydd
  • Bydd y peiriant yn dechrau cofnodi'r llyfrau fesul un
  • Bydd rhestr o'r llyfrau a fenthycwyd yn ymddangos ar y sgrin
  • Arhoswch eiliad i'r peiriant orffen prosesu pob eitem
  • Unwaith bydd y llyfrau i gyd wedi'u rhestru gallwch fynd a nhw
  • Byddwch yn derbyn derbynneb trwy e-bost yn manylu'r eitemau a fenthycwyd
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk