Rydwyf wedi darganfod llyfr yn Primo - ble mae o yn y Llyfrgell?
-
Gwiriwch ble mae'r llyfr wedi'i leoli. Yn yr achos hwn mae yn Llyfrgell Hugh Owen ar Lefel F
-
Gwnewch nodyn o'r nod dosbarth, yn yr achos hwn PR5397.F8.S6
-
Ar bob llawr o'r llyfrgelloedd mae cynllun llawr a gallwch chwilio am y lleoliad llyfrau a chyfnodolion. Mae cynlluniau ar-lein ar gyfer Llyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell Gwyddorau Ffisegol
-
Gwiriwch y cynllun llawr ac ewch i'r ardal honno. Yn yr achos hwn mae'r nod dosbarth yn dechrau gyda PR
-
Edrychwch ar y canllawiau stac ar ddiwedd pob silff. Mae'r rhain mewn trefn nod dosbarth.
-
Pan fyddwch wedi dod o hyd i'r un sy'n nodi'r ystod sy'n cynnwys eich nod dosbarth. Edrychwch ar hyd y silff honno nes i chi gyrraedd yr union nod dosbarth i ddod o hyd i'r llyfr.
-
Am ragor o wybodaeth, gofynnwch i aelod o staff.
Dydy rhai o'r eitemau ddim wedi'u lleoli yn y prif ddilyniant nod dosbarth, e.e. Casgliad Celtaidd, Ffuglen Gyfoes. Edrychwch am y rhain ar y cynlluniau llawr.
Dydy rhai o'r eitemau ddim ar y silffoedd agored a bydd angen i chi rhoi cais amdanynt ar Primo e.e. Llyfrau Prin, llyfrau yn y Storfa Allanol.
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk