Sut mae adfer ffeil rydw i wedi'i dileu ar storfa ffeiliau a rennir?

Adfer o gopi wrth gefn

  • De-gliciwch ar y ffolder a oedd yn cynnwys y ffeil sydd angen ei hadfer a dewiswch Restore Previous Versions
    • Nodyn: Efallai bod yr opsiwn hwn wedi'i guddio y tu ôl i Show more options
  • Porwch y fersiynau sydd ar gael. Pan ddewch o hyd i un rydych chi eisiau adfer, cliciwch arno i'w ddewis ac yna cliciwch Open
  • Llusgwch a gollyngwch y ffeil hon i leoliad gwahanol e.e. eich Bwrdd Gwaith
  • Agorwch y ffeil neu'r ffolder y gwnaethoch chi ei gopïo a gwirio mai dyma'r fersiwn gywir
  • Os ydych yn siŵr bod gennych y fersiwn gywir, gallwch ei gopïo yn ôl i'ch storfa ffeiliau a rennir
  • Rhybudd: Ar ôl i chi ddisodli'r fersiwn gyfredol gyda copi wrth gefn, ni ellir dadwneud yr amnewidiad. Os nad ydych yn siŵr, newidiwch yr enw i rywbeth arall cyn ei gopïo yn ôl i'ch storfa ffeiliau
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk