Sut gallaf ychwanegu, symud neu ddileu adran o restr ddarllen Aspire?

Ychwanegu adran

  • Mewn rhestr Aspire wag, cliciwch ar y tab Ychwanegwch adran ar ochr dde'r sgrin

  • Ychwanegwch deitl yr adran a chlicio ar Cadw

I ychwanegu adran arall, neu i ychwanegu adran at restr Aspire sydd â chynnwys ynddi eisoes

Er enghraifft, adran ar gyfer Wythnos 2

  • Symudwch y cyrchwr i fyny / i lawr i amlygu’r dewislenni llinell
  • Cliciwch ar y botwm YCHWANEGWCH ADRAN ar y ddewislen llinell a welwch islaw Wythnos 1

  • Ychwanegwch deitl yr adran a chlicio ar Cadw

Symud adran

I symud yr adran Darllen Hanfodol o Wythnos 1 i Wythnos 2

  • Cliciwch ar y ddewislen  golygu i'r dde o deitl yr adran
  • Cliciwch ar Torrwch

  • Symudwch y cyrchwr i Wythnos 2 i amlygu’r dewislenni llinell
  • Cliciwch ar y botwm GLUDO ar y dewislenni llinell sy'n ymddangos yn Wythnos 2

Dileu adran

  • Cliciwch ar y ddewislen  golygu i'r dde o deitl yr adran
  • Cliciwch ar Dileu a dilyn y cyfarwyddyd ar y sgrin i ddileu'r adran

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk