Sut mae cael mynediad at yr Offeryn Darganfod Digidol? (Myfyrwyr)

  • Cliciwch ar https://jisc.potential.ly/signin
  • Dewiswch Brifysgol Aberystwyth o'r gwymplen o sefydliadau a chlicio parhau.
  • Yna byddwch yn gweld tudalen mewngofnodi Prifysgol Aberystwyth. Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair prifysgol.
  • Y tro cyntaf i chi fewngofnodi, gofynnir i chi greu cyfrif. Bydd gofyn i chi ddarparu:
    • Eich Enw Cyntaf
    • Eich Cyfenw
    • Eich Lefel Cwrs
    • Eich Pwnc (Bydd angen i chi ddewis o restr o adrannau academaidd Prifysgol Aberystwyth)
  • Ar ôl i chi greu cyfrif, byddwch yn gweld prif ddangosfwrdd yr Offeryn Darganfod Digidol. O'r fan hon gallwch gael mynediad i'r cyfresi o gwestiynau gallu digidol ac unrhyw adroddiadau sydd wedi'u cwblhau.
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk