A all unrhyw un arall weld fy adroddiad Offeryn Darganfod Digidol personol?

Na. Chi yw'r unig un sy'n gallu gweld adroddiad eich Offeryn Darganfod Digidol a'ch canlyniadau unigol yn gyffredinol, a'ch dewis chi yw p’un a ydych yn dewis rhannu hyn gydag eraill. Os byddwch yn dewis rhannu eich adroddiad gydag eraill, efallai y bydd o gymorth i lawrlwytho eich adroddiad fel ffeil PDF.

Noder: Mae gan y Brifysgol fynediad at ddangosfwrdd data sefydliadol sy'n casglu data dienw o'r holl gyfresi o gwestiynau sy’n cael eu cwblhau. Defnyddir y data hwn wedyn i feincnodi ein canlyniadau yn erbyn y canlyniadau ar gyfer sefydliadau Addysg Uwch eraill.

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk