Sut ydw i'n rhannu cynnwys o LinkedIn Learning gyda staff a myfyrwyr eraill?

Mae LinkedIn Learning yn eich galluogi i rannu cyrsiau, fideos, casgliadau a llwybrau dysgu o'r platfform gyda staff a myfyrwyr eraill. Er mwyn gwneud hi’n haws i fyfyrwyr a staff fewngofnodi, rydym yn argymell eich bod chi’n dilyn y camau canlynol wrth rannu cynnwys yn hytrach na chopïo’r ddolen URL o flwch cyfeiriad eich porwr gwe.

I rannu cynnwys gyda defnyddwyr eraill:

  • Mewngofnodwch i https://linkedinlearning.aber.ac.uk a dod o hyd i'r cynnwys yr hoffech ei rannu.
  • Cliciwch ar y saeth ar frig y dudalen.
  • Dewiswch pa ddull yr hoffech chi rannu eich cynnwys (Gallwch rannu trwy LinkedIn, dolen URL, MS Teams, E-bost, Facebook, Twitter, neu gallwch hefyd ymgorffori’r cynnwys).
  • I rannu dolen URL, dewiswch Link.

Screenshot showing where to click the arrow and link option

  • Os ydych chi'n rhannu cwrs, bydd angen i chi ddewis a ddylid rhannu'r cwrs cyfan, neu rannu fideo penodol o fewn y cwrs hwnnw. Ar ôl i chi wneud dewis, dewiswch Copy.
  • Gallwch nawr rannu'r ddolen URL gyda staff a myfyrwyr o fewn PA.

Noder: Gall staff hefyd gynnwys dolenni uniongyrchol i gynnwys o LinkedIn Learning, ac ymgorffori cyrsiau o fewn eu modiwlau Blackboard. Am gyfarwyddiadau pellach, gweler: 

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk