Beth mae rhwydwaith gyfrifiadurol o dan fygythiad am gyfnod ar ddydd Mawrth yn ei olygu?

Mae gwasanaeth cyfrifiadurol PA yn gweithredu ar dros bedwar ugain o weinyddion a channoedd o switsys rhwydwaith. Mae’r rhan fwyaf o’r offer wedi eu lleoli yn ganolog ac maent yn hanfodol ar gyfer darparu unrhyw fath o wasanaeth.

Polisi’r Brifysgol ers nifer o flynyddoedd oedd bod gwaith uwchraddio neu gyfnewid ar gyfer yr offer allweddol yma yn digwydd yn ystod y gwyliau yn unig er mwyn diogelu dysgu ac arholiadau yn ystod y tymor. Yn ystod y gwyliau ar fore Mawrth hyd at 10:00 o’r gloch mae gwaith o’r fath yn cael ei wneud, a dylid ystyried bod “risg” i’r gwasanaethau. Rhoddir rhybudd o flaen llaw os yw’r gwaith a wneir ar Ddydd Mawrth yn debygol o effeithio ar y gwasanaethau wedi’r amser hwnnw.

Fodd bynnag, ni ellir disgwyl i weinyddion cyfrifiaduron weithio am ddeng wythnos yn ystod y tymor heb unrhyw ymyrraeth o gwbl. Mae angen i’r systemau gael eu hailgychwyn bob pump i chwe wythnos i glirio prosesau system diangen ac i edrych ar y storau ffeil perthnasol. Mae hyn hefyd yn cadarnhau bod y caledwedd a’r meddalwedd yn gweithio’n iawn er mwyn iddynt allu ailgychwyn yn iawn pe bai angen iddynt wneud hynny yn ddirybudd yn ystod yr wythnos.

Golyga hyn, hyd yn oed yn ystod y tymor, fod angen colli’r gwasanaeth ar rai boreau Mawrth rhwng 07:00 a 10:00 er mwyn i ni allu gwirio ac, os bydd angen, uwchraddio systemau cyfrifiadurol a rhwydweithiol allweddol. Mae angen gwneud y gwaith pan fo’r staff yn bresennol oherwydd gallant weld bod problem yn codi, ac mae’n bwysig cywiro hyn cyn gynted â phosibl – mae oediad am ugain munud ar fore Dydd Mawrth yn well na dim gwasanaeth am ddeuddeng awr dros nos.

Rydym yn ymwybodol iawn fod colli gwasanaeth cyfrifiadurol yn niwsans, ond teimlir bod canolbwyntio’r holl waith i un awr “risg” ar fore, y rhoddir gwybod amdani ymlaen llaw, yn lleihau’r posibilrwydd y bydd problem faith annisgwyliadwy yn digwydd ar adeg arall o’r wythnos, y gallai rhaglen reolaidd o ailgychwyn fod wedi ei hatal.

 

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk