Gallaf glywed y sianel gyfieithu ar Teams a sianel y cyfarfod ar yr un lefel sain. Beth ddylwn i ei wneud?
Os ydych yn troi sain gofodol (spatial audio) ymlaen mewn cyfarfod gyda chyfieithu ar y pryd, byddwch yn clywed y sain wreiddiol a’r cyfieithu ar yr un lefel sain. Diffoddwch y sain gofodol ac ailymunwch â’r cyfarfod i glywed llais y cyfieithydd yn glir gyda’r llais gwreiddiol yn is.
I ddiffodd y ‘sain gofodol’:
- Dewiswch Mwy ... > Gosodiadau > Gosodiadau’r ddyfais.
- O dan Gosodiadau Sain, ewch i Seinydd, dewiswch eich dyfais gytûn.
- Diffoddwch y togl wrth ymyl Sain Gofodol.
Gadewch ac ailymunwch â’r cyfarfod. Dylech nawr glywed y sianel gyfieithu yn glir.
IT Service Desk, Aberystwyth University, Hugh Owen Library, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Tel: 01970 62 2400 Email: is@aber.ac.uk
Tel: 01970 62 2400 Email: is@aber.ac.uk