Sut mae creu Aseiniad Panopto ar gyfer modiwl? (Staff)
Creu dolen ar gyfer Cyflwyno Aseiniad Fideo
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer creu Aseiniad Blackboard
- Defnyddiwch yr opsiwn Ychwanegu testun i ychwanegu cyfarwyddiadau i fyfyrwyr.
Dylech gynnwys y cyfarwyddiadau ar gyfer Cyflwyno Aseiniad Fideo o'r Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu
Rydym hefyd yn argymell eich bod yn gosod cyflwyniad prawf fel y gall myfyrwyr ymarfer cyn y cyflwyniad terfynol.
Marcio Cyflwyniadau Myfyrwyr
- Cliciwch ar y ddolen gyflwyno a grëwyd gennych
- Cliciwch ar y tab Cyflwyniadau
- Cliciwch ar un o'r cyflwyniadau
- Gallwch chi chwarae'r fideo yn y ffenestr farcio
- Ychwanegwch eich marc terfynol a'ch adborth ar ochr dde'r sgrin. Cliciwch ar y saeth, neu’r botwm plws i agor y Panel Adborth Cyffredinol.
- Ar ôl i chi farcio'r holl gyflwyniadau, dewiswch Cyhoeddi pob gradd i ryddhau marciau ac adborth.
Elearning, Aberystwyth University, Hugh Owen Library, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Tel: 01970 62 2472 Email: elearning@aber.ac.uk
Tel: 01970 62 2472 Email: elearning@aber.ac.uk