Sut mae darllen ac argraffu e-lyfr VLeBooks yr wyf wedi ei ddarganfod yn Primo?
I ddarllen elyfr o VLeBooks
- Mewngofnodwch i Primo cyn chwilio am unrhyw Adnoddau Ar-lein.
- Dewch o hyd i'r llyfr yr hoffech ei ddarllen yn Primo, cliciwch ar mynediad ar-lein yna cliciwch ar y ddolen elyfr. Yn yr achos hwn: VLeBooks:
- Bydd ffenestr newydd yn mynd â chi i'r elyfr. Cliciwch ar Darllen Ar-lein
- Neu cliciwch ar Lawrlwytho i ddarllen all-lein.
- Noder, i ddarllen elyfrau ar eich cyfrifiadur personol, Mac, neu ddyfais symudol, rhaid i chi eisoes fod wedi llwytho'r feddalwedd darllen addas ac wedi cofrestru ag Adobe: Mewnosod Argraffiadau Digidol Adobe
I wrando ar-lein gan ddefnyddio darllenydd sgrin darllen ac ysgrifennu:
- Yn gyntaf gosodwch yr estyniad darllen ac ysgrifennu ar gyfer Chrome, Edge neu Firefox os nad ydyw gennych eisoes
- Y tro cyntaf y byddwch yn defnyddio'r estyniad bydd angen i chi glicio ar Microsoft a mewngofnodi gan ddefnyddio manylion eich cyfrif Prifysgol Aberystwyth
- Agorwch yr elyfr Ebook Central
- Cliciwch ar Settings ar frig y sgrin ar yr ochr dde
- Cliciwch ar Profile
- Dewiswch Enable Accessibility Mode ac yna Save Changes
- Ewch yn ôl i'r elyfr Ebook Central a chlicio ar y symbol estyniad darllen ac ysgrifennu i wneud y bar offer yn weladwy
I argraffu o elyfr VLeBooks
- Er mwyn cydymffurfio â chyfraith hawlfraint, bydd y cyhoeddwr ond yn caniatáu i chi argraffu canran benodol o elyfr yn unig.
- Dewiswch Print o'r bar offer
- Bydd neges yn ymddangos i ddweud sawl tudalen y cewch eu hargraffu o'r llyfr.
- Rhowch rifau'r tudalennau yr hoffech eu hargraffu, yna cliciwch ar Print. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis yr argraffydd BlackandWhite on print.aber.ac.uk, yna cliciwch ar OK
- Dylai'r tudalennau a ddewiswyd fod yn barod i'w hargraffu.
Library, Aberystwyth University, Hugh Owen Library, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Tel: 01970 62 2020 Email: library@aber.ac.uk
Tel: 01970 62 2020 Email: library@aber.ac.uk