Rwy'n cael problem cael mynediad i e-adnoddau oddi ar y campws, beth ddylwn i ei wneud?

  • Sicrhewch fod pori ar y we yn gweithio ar eich cyfrifiadur drwy ymweld â gwefannau eraill 

  • Gwiriwch a oes gwaith cynnal a chadw wedi'i drefnu neu amser segur heb ei drefnu wedi cael ei gofnodi a allai fod yn effeithio ar wasanaethau PA neu ddarparwr yr adnodd ( Sut mae gwneud hynny? )

  • Sicrhewch eich bod wedi dilyn y cyngor awdurdodi yn y Cwestiwn Cyffredin cyngor oddi ar y campws

  • Peidiwch â thalu i gael mynediad i unrhyw beth. Mae'r llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i gyflenwi adnoddau sydd eu hangen ar fyfyrwyr a staff nad ydynt mewn stoc neu sydd ar gael mewn print yn unig

  • Efallai eich bod wedi dod o hyd i erthygl cyfnodolyn yn Primo ond mae'r ddolen yn mynd â chi i hafan y cyfnodolyn yn hytrach na'r erthygl ei hun. Gallwch naill ai chwilio o hafan y cyfnodolyn am yr erthygl neu ddefnyddio'r wybodaeth am y gyfrol, rhifyn a'r tudalennau yn y canlyniad chwilio ar Primo i bori iddo

  • Efallai eich bod wedi dod o hyd i erthygl mewn cyfnodolyn y mae gan y Llyfrgell fynediad i ran o'r cyhoeddiad yn unig. Gallwch wirio'r daliadau cyfnodolion yn Primo (Sut mae gwneud hynny?

Mae croeso i chi gysylltu â'ch llyfrgellydd pwnc am gymorth i ddod o hyd i'r adnoddau i gefnogi eich astudiaethau neu'ch ymchwil. Naill ai e-bostiwch librarians@aber.ac.uk neu drefnwch apwyntiad Teams ar https://libcal.aber.ac.uk

Cofnodi nam

  • Os nad yw adnodd ar-lein yr ydych wedi dod o hyd iddo yn Primo yn clicio drwodd yn llwyddiannus i'r testun llawn, cliciwch ar y botwm Adrodd Problem yn y canlyniad chwilio Primo gan egluro'n fyr beth sy'n digwydd. Bydd y ffurflen gofnodi hefyd yn casglu gwybodaeth ddiagnostig ychwanegol i gynorthwyo staff y Llyfrgell sy'n ymchwilio i'r broblem.

Os nad oes modd i chi gael mynediad i elyfr, egyfnodolyn, erthygl ar-lein neu ffynhonnell arall y mae PA yn tanysgrifio iddi o leoliadau y tu allan i Primo, e.e. A i Y o Ffynonellau Electronig neu wrth chwilio cronfeydd data unigol, e-bostiwch ejournals@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970622400 gyda'r wybodaeth ganlynol

  • pa adnodd oeddech chi eisiau cael mynediad iddo
  • y dyddiad a'r amser ar y pryd 
  • y neges wall a gawsoch (os o gwbl) gyda sgrinlun os yw'n bosibl
  • os oeddech chi gartref, yn y gwaith neu'n rhywle arall
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk