Sut ydw i'n cael mynediad at e-adnoddau oddi ar y campws?

Dylid defnyddio GlobalProtect VPN  i gael mynediad at e-adnoddau pan fyddwch oddi ar y campws, fodd bynnag os ydych chi wedi cael cyfarwyddiadau penodol i beidio â'i ddefnyddio gallwch ddilyn y camau isod. 

cyn dechrau chwilio am unrhyw lyfrau llyfrgell.

Yn Primo, pan fyddwch yn dod o hyd i elyfr, egyfnodoyn neu erthygl o gyfnodolyn ar-lein

  • cliciwch ar y teitl i agor y manylion, cliciwch ar View Online yn y ddewislen ar y chwith a dilynwch y cyngor oddi ar y campws

Os yw'r Authentication notes yn dangos: Off-campus: please use Login@Aber ...

  • gallwch glicio Full text available at: dolen i dudalen y cyhoeddwr i ddarllen y testun llawn oherwydd eich bod wedi mewngofnodi i Primo

off campus advice for login@aber in Primo

Efallai y cewch gyngor i glicio ar un o'r rhain pan fyddwch yn cyrraedd tudalen y cyhoeddwr

  • Dolen Mewngofnodi Shibboleth
  • Mewngofnod UK Access Federation
  • Mewngofnod Sefydliadol
  • Mewngofnod Prifysgol Aberystwyth

a dewis Prifysgol Aberystwyth o restr o sefydliadau sy'n cymryd rhan.

Os yw'r Authentication notes yn dangos: Off-campus: please use Primo VPN

  • Agorwch Primo VPN (Sut mae gwneud hynny?) a chliciwch ar Full text available at: dolen i dudalen y cyhoeddwr

off campus advice for Primo VPN in Primo

Pan fyddwch wedi gorffen ymchwilio gyda Primo VPN, cofiwch gau'r porwr oherwydd gall Primo VPN atal eich mynediad i adnoddau eraill.

Os yw'r Authentication notes yn dangos: Access information is provided at the online Password List ...

Mae nifer fach o adnoddau sy'n gofyn i chi ymweld â'r rhestr hon o gyfrineiriau.

off campus advice for Password List in Primo

  • Mewngofnodwch i'r rhestr o gyfrineiriau gyda'ch enw defnyddiwr a chyfrinair Aber
  • Nodwch y mewngofnod a'r cyfrinair ar gyfer yr adnodd yr hoffech ei ddefnyddio
  • Yn Primo cliciwch ar Full text available at: dolen i dudalen y cyhoeddwr a theipiwch/gludwch fewngofnod a chyfrinair yr adnodd o'r rhestr o gyfrineiriau ar-lein yn syth i'r blwch mewngofnodi yno

Mewn unrhyw adnodd ar-lein sy'n cynnwys y botwm @aber

Os ydych chi'n chwilio o fewn cronfeydd data ar-lein efallai y gwelwch fotymau @aber yn cael eu dangos gyda'ch canlyniadau chwilio

  • cliciwch ar @aber a dilynwch y cyngor awdurdodi fel y disgrifir uchod

Mewn prifysgol arall

Trwy ddefnyddio JANET roaming.

Os ydych chi'n cael problemau cael mynediad i adnoddau ar-lein oddi ar y campws, darllenwch y cyfarwyddiadau datrys problemau sy'n cynnwys manylion ar sut i gysylltu â'r Gwasanaethau Gwybodaeth.

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk