Sut ydw i'n defnyddio a rheoli fy ngliniadur parth PAU?
Cyn i chi adael y campws:
- Trowch y gliniadur ymlaen
- Cysylltwch â eduroam cyn mewngofnodi i'r gliniadur gan ddefnyddio'r eicon wifi ar waelod chwith
- Mewngofnodwch i'r gliniadur gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair PA
- Agorwch y Ganolfan Feddalwedd a gosodwch y meddalwedd sydd ei angen arnoch (Ble i ddod o hyd i Ganolfan Meddalwedd ar fy cyfrifiadur staff PA)
- Gosodwch VPN a sefydlwch 'Awthentigeiddiad Aml Factor' os ydych yn mynd i ddefnyddio'r gliniadur oddi ar Campws(Sut i osod GlobalProtect VPN?)
- Agorwch bob rhaglen y byddwch chi'n ei defnyddio a gwiriwch ei bod yn gweithio
Cynnal a chadw cyffredinol
- Dewch a'r gliniadur yn ôl i'r campws pob 90 diwrnod. Os byddwch i ffwrdd am fwy o amser rhowch wybod i Wasanaethau Gwybodaeth (Sut i gysylltu a Gwasanaethau Gwybodaeth). Gall bod i ffwrdd am fwy na 90 diwrnod achosi problemau gyda thrwyddedau meddalwedd, efallai y byddwch am drafod beth i'w wneud os bydd angen mynediad gweinyddwr arnoch
- Cyn mynd ar deithiau maes hir:
- Bydd angen profi fod VPN yn gweithio. Ni fydd yn gweithio os ydych wedi cysylltu â eduroam, felly profwch ef oddi ar gampws neu wrth gysylltu â WiFi_Guest ( Sut ydw i'n cysylltu a gwasanaeth diwifr The Cloud? )
- Profwch fod pob rhaglen sydd angen arnoch yn gweithio oddi ar gampws
- Rhedwch unrhyw ddiweddariadau Windows sydd yn aros.
Pethau pellach i'w hystyried
Pan fyddwch yn newid eich cyfrinair PA:
- Cysylltwch â eduroam CYN mewngofnodi i'r gliniadur
- Mewngofnodwch i'r gliniadur gyda'ch cyfrinair newydd
- Bydd hyn diweddaru eich cyfrinair storfa ar y gliniadur yna gallwch fewngofnodi oddi ar gampws
- Os ydych angen gosod meddalwedd sydd ddim yn y Ganolfan Feddalwedd bydd angen gofyn am gyfrinair gweinyddol dros dro. Cysylltwch â Gwasanaethau Gwybodaeth gan roi enw eich cyfrifiadur ac enw'r meddalwedd rydych am ei osod ( Sut i dod o hyd i enw fy nhyfrifiadur? )
- Os yw'r meddalwedd yn adrodd ar faterion trwyddedu, dewch â'r gliniadur i'r campws
- Os ydych chi'n mynd â'r gliniadur gyda chi ar daith hir, cysylltwch â Gwasanaethau Gwybodaeth i weld a oes unrhyw beth y mae angen i chi ei wneud cyn gadael.
IT Service Desk, Aberystwyth University, Hugh Owen Library, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Tel: 01970 62 2400 Email: is@aber.ac.uk
Tel: 01970 62 2400 Email: is@aber.ac.uk
