Pa bryd fydd fy nghyfrif cyfrifiadurol Prifysgol yn cau?
Myfyrwyr
- Bydd pob myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig (a addysgir ac ymchwil) sydd wedi cofrestru, gan gynnwys myfyrwyr dysgu o bell, yn cadw mynediad i'w cyfrif ebost yn unig nes graddio. Bydd yr holl fynediadau eraill yn dod i ben pan fyddwch yn cyrraedd dyddiad cwblhau eich cwrs.
- Daw breintiau benthyca llyfrgell ar gyfer israddedigion blwyddyn olaf i ben ar 01 Mehefin 2024.
Bydd myfyrwyr cyfnewid, neu'r rhai ar gyrsiau byr, na fyddant yn graddio o Brifysgol Aberystwyth yn cadw mynediad i'w cyfrifon TG a benthyca Llyfrgell tan ddiwedd eu cofrestriad myfyriwr. - Dylai myfyrwyr sydd ar fin cwblhau eu hastudiaethau ddilyn y weithdrefn ymadael
-
Staff
- Bydd cyfrifon Staff yn cloi'r diwrnod ar ôl i'w contract ddod i ben.
- Os ydych yn disgwyl i'ch contract gael ei ymestyn, dylech gysylltu ag Adnoddau Dynol i wirio
- Dylai Staff ar gontract sydd ar fin dod i ben ddilyn y weithdrefn gadael
-
Staff Anrhydeddus/Emeritws/Staff Ymweld
- Bydd cyfrifon Staff Anrhydeddus/Emeritws/staff Ymweld yn cael eu hawdurdodi am gyfnod cyfyngedig. Bydd yn cloi'r diwrnod ar ôl i'r cyfnod hwn ddod i ben.
- Os yw eich cysylltiad â'r Brifysgol yn parhau dylech gysylltu ag Adnoddau Dynol i ymestyn eich mynediad
- Dylai Staff Anrhydeddus/Emeritws/Staff Ymweld sydd ar fin gorffen ddilyn y weithdrefn gadael
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk