Beth ddylwn i wneud os ydw i'n gadael? (Myfyrwyr)

Pan fydd eich cyfnod cofrestru fel myfyriwr yn dod i ben ni fydd gennych fynediad i’ch cyfrif cyfrifiadurol Prifysgol bellach nag adnoddau rhwydwaith y Brifysgol.


Gwelir ein FAQ am wybodaeth ynglŷn â phryd bydd eich cyfrif Brifysgol yn cau.

Dylech chi:

  • Ddychwelyd pob eitem yr ydych wedi’i benthyca a chlirio unrhyw ddirwyon neu ddyledion llyfrgell. Gallwch weld y rhain trwy fewngofnodi i Primo clicio ar eich enw yn y gornel dde ar dop y sgrin a dewis Fy Nghyfrif Llyfrgell. allwch ddarganfod Gwybodaeth ynglŷn â dychwelyd benthyciadau Llyfrgell a thalu eich dirwyon ar ein FAQS.

 

 

  • Gwneud copi o’ch storfa ffeiliau Prifysgol (Gyriant M) Os ydych chi eisiau cadw copi o ffeiliau sydd wedi'u storio ar eich gyriant M bydd angen i chi eu copïo i leoliad newydd, er enghraifft i'ch storfa cwmwl bersonol neu yriant USB.

 

  • Gwneud copi o’ch storfa ffeiliau sydd ar i’ch cyfrif OneDrive Prifysgol Os ydych chi eisiau cadw copi o ffeiliau sydd wedi'u storio ar eich cyfrif OneDrive bydd angen i chi eu copïo i leoliad newydd, er enghraifft i'ch storfa cwmwl bersonol neu yriant USB.

 

 

  • Newidiwch eich cyfeiriad e-bost cyswllt
    Os ydych wedi defnyddio eich cyfeiriad e-bost Prifysgol Aberystwyth fel cyfeiriad cyswllt ar gyfer e.e. eich CV, eich cyfrif banc, Paypal rhaid ichi newid hyn cyn gynted ag sy’n bosib. Unwaith y bydd eich cyfrif yn cloi ni fyddwch yn gallu cyrchu eich e-bost PA mwyach

 

  • Archifwch negeseuon e-bost PA
    Os ydych chi eisiau cadw copi o'ch negeseuon e-bost Prifysgol bydd angen i chi eu harchifo i leoliad newydd.

 

  • Gwiriwch eich credyd Cerdyn Aber Gallwch wneud cais am ad-daliad o unrhyw gredyd sydd ar ol are ich Cerdyn Aber drwy fewngofnodi i'r porth ad-daliadau.

 

  • Gwiriwch eich bod chi'n gwybod beth i'w wneud ar gyfer wythnos graddio
    Mae popeth sydd angen i chi ei wybod am y seremonïau graddio i'w gael ar dudalennau gwe Graddio.
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk