Sut mae creu rhestr ddarllen modiwl yn Aspire?
Cyn creu rhestr ddarllen newydd ar gyfer modiwl yn Aspire, darllenwch y Cwestiwn Cyffredin hwn (Beth sydd angen i mi ei wybod am y modiwl a chynnwys y rhestr ddarllen arfaethedig cyn creu rhestr ddarllen newydd yn Aspire?)
- Mewngofnodwch i Aspire ( Sut mae gwneud hynny? )
- Cliciwch ar Fy Rhestrau
- Cliciwch ar Creu rhestr newydd ar y dde
Os nad yw'r botwm Creu rhestr newydd yn ymddangos, bydd angen i chi drefnu caniatâd Aspire (Sut mae gwneud hynny?)
- Yn y sgrin 'Creu rhestr newydd', ychwanegwch god ac enw'r modiwl i flwch y rhestr newydd - dilynwch y confensiynau hyn
- os yw'r rhestr ar gyfer un modiwl: ED20910 Urban Pacification
- os yw'r rhestr ar gyfer dau fodiwl sydd â'r un enw: ED20910 ED30910 Urban Pacification
- os yw'r rhestr ar gyfer dau fodiwl sydd ag enwau gwahanol: AD20910 Heddychiad Trefol / ED20910 Urban Pacification
- Cliciwch ar Dewis Hierarchaeth a theipio cod y modiwl - pan fydd yn ymddangos o dan y blwch chwilio, cliciwch arno ac yna clicio ar Cadw i greu'r ddolen hierarchaeth. Gwnewch hyn ar gyfer pob modiwl y mae'r rhestr ddarllen ar ei gyfer.
Mae'n rhaid i chi gysylltu eich rhestr â'r hierarchaeth i'w chysylltu â'ch modiwl BlackBoard yn ddiweddarach
- Dewiswch y semester priodol o'r ddewislen Semester
Nid oes angen ychwanegu nifer y myfyrwyr oherwydd bydd staff y llyfrgell yn defnyddio data nifer y myfyrwyr o Astra ar gyfer prynu/digido.
- Cliciwch ar Creu Rhestr
Gofynnir i chi wedyn gadarnhau ai chi yw perchennog y rhestr ai peidio. Os nad yw hyn yn hysbys pan fyddwch yn creu'r rhestr, gallwch ychwanegu hyn yn ddiweddarach ( Sut mae gwneud hynny? )
- Cliciwch ar Fy Rhestrau i weld eich holl restrau
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk