A allaf ail-gymryd yr Offeryn Darganfod Digidol?

Gallwch. Gallwch ail-gymryd yr Offeryn Darganfod Digidol ar unrhyw adeg, a byddem yn annog bod pob myfyriwr a staff yn ail-gymryd yr Offeryn Darganfod Digidol bob blwyddyn.

Pam? Mae ailadrodd yr un gyfres o gwestiynau yn caniatáu ichi weld sut mae eich galluoedd digidol wedi newid dros amser wrth ichi gymharu'ch canlynidau. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os ydych wedi bod yn gweithio ar wella maes penodol.

Ar ôl ichi gwblhau'r un gyfres o gwestiynau fwy nag unwaith, gallwch gymharu'r canlyniadau o'ch adroddiadau (Sut ydw i'n gwneud hynny?). Mae hon yn ffordd ddefnyddiol o fesur eich cynnydd dros amser.

 

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk