Beth ddylwn i wneud os ydw i'n gadael? (Myfyrwyr)

Pan fydd eich cyfnod cofrestru fel myfyriwr yn dod i ben ni fydd gennych fynediad i’ch cyfrif cyfrifiadurol Prifysgol bellach nag adnoddau rhwydwaith y Brifysgol.


Gwelir ein FAQ am wybodaeth ynglŷn â phryd bydd eich cyfrif Brifysgol yn cau.

Cyn i’ch cyfrif cloi rhaid ichi:

  • Ddychwelyd pob eitem yr ydych wedi’i benthyca a chlirio unrhyw ddirwyon neu ddyledion llyfrgell. Gallwch weld y rhain trwy fewngofnodi i Primo clicio ar eich enw yn y gornel dde ar dop y sgrin a dewis Fy Nghyfrif Llyfrgell. allwch ddarganfod Gwybodaeth ynglŷn â dychwelyd benthyciadau Llyfrgell a thalu eich dirwyon ar ein FAQS.

 

  • Os oes gyda chi locer yn y Llyfrgell, gwagwch a locer a dychwelwch yr allwedd.

 

  • Gwneud copi o’ch storfa ffeiliau Prifysgol (Gyriant M) Os ydych am gadw copi o’ch ffeiliau bydd angen ichi eu harchifo, er enghraifft i gof bach neu storfa electronig bersonol( Sut ydw i’n gwneud hynny? )

 

  • Gwneud copi o’ch storfa ffeiliau sydd ar i’ch cyfrif OneDrive Prifysgol Os ydych am gadw copi o’ch ffeiliau bydd angen ichi eu harchifo, er enghraifft i gof bach neu storfa electronig bersonol (Sut ydw i’n gwneud hynny?)

 

  • Gwnewch gopïau wrth gefn o unrhyw ddogfennau neu aseiniadau sydd ar Blackboard
    Efallai mi fydd angen i chi cyfeirio at aseiniadau neu draethodau hir / prosiectau mawr yn y dyfodol. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn lawr lwytho'r holl waith rydych wedi'i gyflwyno yn ystod eich amser yn y brifysgol, cyn i chi raddio.

 

  • Newidiwch eich cyfeiriad e-bost cyswllt
    Os ydych wedi defnyddio eich cyfeiriad e-bost Prifysgol Aberystwyth fel cyfeiriad cyswllt ar gyfer e.e. eich CV, eich cyfrif banc, Paypal rhaid ichi newid hyn cyn gynted ag sy’n bosib. Unwaith y bydd eich cyfrif yn cloi ni fyddwch yn gallu cyrchu eich e-bost PA mwyach

 

 

  • Gwiriwch eich credyd Cerdyn Aber Gallwch wneud cais am ad-daliad o unrhyw gredyd sydd ar ol are ich Cerdyn Aber. Gwelir y dudalen yma am fanylion.

 

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk