Sut mae ychwanegu llyfr yn Primo i restr ddarllen Aspire?
- Mewngofnodwch i Aspire (Sut ydw i’n gwneud hynny?)
- Gwnewch yn siŵr eich bod wedi llwytho offer llyfrnodi Aspire neu estyniad llyfrnodi Aspire (Sut ydw i’n gwneud hynny?)
- Mewn tab newydd yn eich porwr, ewch i Primo (Ble mae hwnnw?)
- Dewch o hyd i'r llyfr yr hoffech ei ychwanegu at y rhestr ddarllen
- Cliciwch ar deitl y llyfr
- Cliciwch ar y botwm llyfrnod Aspire neu'r eicon estyniad Talis
- Bydd y ffurflen hon yn ymddangos ar ochr chwith eich sgrin. Gwiriwch fod y data llyfryddol yn gywir, ac os nad ydyw newidiwch ef yn ôl yr angen
- Cliciwch ar Creu ac Ychwanegu at Restr i ychwanegu eich nod tudalen ar unwaith at restr ddarllen Aspire sy'n bodoli eisoes (Sut ydw i'n gwneud hynny?)
Neu
- Cliciwch ar Creu os ydych am gadw’r nod tudalen er mwyn ei ychwanegu at restr yn ddiweddarach (Sut ydw i'n gwneud hynny?)
Library, Aberystwyth University, Hugh Owen Library, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Tel: 01970 62 2020 Email: library@aber.ac.uk
Tel: 01970 62 2020 Email: library@aber.ac.uk