Sut mae ychwanegu erthygl o gyfnodolyn i restr ddarllen Aspire?
- Mewngofnodwch i Aspire (Sut mae gwneud hynny?).
- Dewch o hyd i'r erthygl yr hoffech ei hychwanegu ar-lein (mae'n well eich bod yn chwilio am yr erthygl ar Primo cyn defnyddio porwyr eraill gan fod hyn yn helpu i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael mynediad iddi a bod y manylion llyfryddiaethol yn gywir).
Ar y dudalen sy'n cynnwys manylion llyfryddiaeth yr erthygl gan gynnwys y DOI neu ddolen barhaol arall (nid y tabl cynnwys ar gyfer y rhifyn).
- Cliciwch ar y botwm Llyfrnod Aspire neu eicon estyniad Talis yn ffenestr eich porwr (Sut mae gwneud hynny?).
Mae cofnod Aspire newydd yn agor â'ch adnodd yn cael ei ddangos fel erthygl, os yw'r erthygl wedi'i chategoreiddio'n anghywir fel tudalen we neu ddogfen yn hytrach, canslwch ef a cheisiwch ychwanegu'r erthygl â llaw (Sut mae gwneud hynny?).
Pwysig: Os nad yw testun llawn yr erthygl ar gael, bydd angen i chi ofyn am ddigideiddio (Sut mae gwneud hynny?) Bydd dolen i'r bennod wedi'i digido yn cael ei hychwanegu gan staff y llyfrgell at y llyfrnod Aspire.
- Cliciwch ar Cadw yn Fy Nodau Tudalen.
- Os yw'r rhestr rydych chi am ychwanegu'r adnodd ati yn dangos ar y dde, cliciwch ar Ychwanegu at y rhestr. Os nad yw'n bresennol, teipiwch y rhestr yn y bar chwilio a bydd yn ymddangos, cliciwch ar Ychwanegu at y rhestr. (Rhaid i chi sicrhau bod y rhestr ddarllen sydd ei hangen arnoch eisoes wedi’i neilltuo i’ch adran ‘Fy Rhestrau’ (Sut mae gwneud hynny?).
- Rhaid i chi ddewis lefel Mhwysigrwydd o'r gwymplen. Gallwch ddewis lleoliad yr adnodd ar y rhestr gan ddefnyddio'r cwymplenni Dewis safle ar y rhestr. Gellir ychwanegu nodiadau ar gyfer y llyfrgell a'r myfyrwyr yn yr adran Nodiadau.
- Unwaith y bydd yr uchod wedi'i gwblhau, cliciwch ar Gorffen.
Noder - Os nad yw'r erthygl ar gael ar-lein i fyfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Aberystwyth ac os oes angen ei digido i'w llwytho i fyny i'r modiwl Blackboard, gwnewch gais i ddigido (Sut ydw i'n gwneud hynny?) Bydd dolen i'r bennod wedi'i digido yn cael ei hychwanegu gan staff y llyfrgell i'r llyfrnod Aspire.
Tel: 01970 62 2020 Email: library@aber.ac.uk
