Sut mae ychwanegu llyfr yn Primo i restr ddarllen Aspire?

  • Cliciwch ar deitl y llyfr
  • Cliciwch ar y botwm llyfrnod Aspire neu'r eicon estyniad Talis
  • Bydd y ffurflen hon yn ymddangos ar ochr chwith eich sgrin. Gwiriwch fod y data llyfryddol yn gywir, ac os nad ydyw newidiwch ef yn ôl yr angen

  • Cliciwch ar Creu ac Ychwanegu at Restr i ychwanegu eich nod tudalen ar unwaith at restr ddarllen Aspire sy'n bodoli eisoes (Sut ydw i'n gwneud hynny?)

Neu

  • Cliciwch ar Creu os ydych am gadw’r nod tudalen er mwyn ei ychwanegu at restr yn ddiweddarach (Sut ydw i'n gwneud hynny?)

 

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk