Sut mae ychwanegu llyfr i restr darllen Aspire o wefan llyfrwerthwr neu gyhoeddwr?
Os nad yw'r llyfr yr hoffech ei ychwanegu ar Primo, gallwch ei ychwanegu o wefan adwerthwr ar-lein megis Amazon neu Blackwell's
-
Ewch i Amazon a dod o hyd i'r llyfr yr hoffech ei ychwanegu
-
Dewiswch y fformat clawr papur hyd yn oed os byddai'n well gennych elyfr (ni all y Llyfrgell brynu fersiwn Kindle ond gall chwilio am elyfrau sefydliadol)
-
Cliciwch ar y botwm llyfrnod Aspire neu'r eicon estyniad Talis.
-
Efallai y bydd angen i chi olygu cynnwys y llyfrnod,er enghraifft, yr Awdur yn y sgrinlun isod. Hefyd, tynnwch y maes Cyfeiriad Gwe neu bydd yn ymddangos ar eich rhestrau darllen fel dolen i'r dudalen Amazon.
-
Cliciwch ar Creu ac Ychwanegu at Restr i ychwanegu eich llyfrnod yn syth i restr presennol (Sut mae gwneud hynny?)
Neu
-
Cliciwch ar Creu os hoffech ychwanegu llyfrnod ar gyfer ei ychwanegu at restr yn ddiweddarach (Sut mae gwneud hynny?)
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk