Sut mae ychwanegu pennod o lyfr i Aspire?

  • Cliciwch ar deitl y llyfr yna cliciwch ar fotwm llyfrnod Aspire neu'r eicon estyniad Talis yn eich ffenestr bori (Sut mae gwneud hynny?)

  • O dan Meysydd Ychwanegol (ger gwaelod y dudalen) dewiswch Mae ganddo ran (pennod, erthygl, ayb) ...o'r gwymplen Math.

  • Cliciwch ar Ychwanegu

  • Dewiswch Pennod fel y math o adnodd ac ychwanegu teitl y bennod i Math o Adnodd

  • Llenwch y meysydd pennod yn ôl yr angen e.e. Teitl
  • O dan Meysydd Ychwanegol cliciwch ar Math ac ychwanegu a llenwi'r meysydd ychwanegol hyn
    • Awdur - ychwanegwch awdur y bennod er mwyn iddo ymddangos yn eich rhestr ddarllen
    • Tudalennau - mae staff y llyfrgell angen gwybod y rhifau tudalen cywir os hoffech ddigido


  • Cliciwch ar Creu ac Ychwanegu at Restr i ychwanegu eich llyfrnod yn syth i restr bresennol, gan sicrhau eich bod yn gwneud cais i ddigido os hoffech ddigido'r bennod (Sut mae gwneud hynny?) Bydd dolen i'r bennod wedi'i digido yn cael ei hychwanegu gan staff y llyfrgell i'r llyfrnod Aspire.

Neu

  • Cliciwch ar Creu os hoffech ychwanegu llyfrnod i'w ychwanegu at restr yn ddiweddarach (Sut mae gwneud hynny?)

 

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk