Sut mae ychwanegu erthygl o gyfnodolyn i restr ddarllen Aspire?

Ar y dudalen sy'n cynnwys y manylion llyfryddiaethol am yr erthygl gan gynnwys y dyddiad cyhoeddi neu ddolen barhaol arall (nid y tabl o gynnwys ar gyfer y cyhoeddiad)

 



  • Cliciwch ar y botwm llyfrnod Aspire neu'r eicon estyniad Talis yn ffenestr eich porwr (Sut mae gwneud hynny?)

Bydd cofnod Aspire newydd yn agor gyda'r Math o Adnodd: Erthygl a dau dab, un ar gyfer yr Erthygl ac un ar gyfer y Cyfnodolyn.

Os oes gan yr erthygl y Math o Adnodd: Tudalen we neu Ddogfen yn lle, canslwch ef a cheisio ychwanegu'r erthygl â llaw ( Sut mae gwneud hynny? )

 

  • Cliciwch ar Creu ac Ychwanegu at Restr i ychwanegu eich llyfrnod yn syth i restr ddarllen ( Sut mae gwneud hynny? )

Pwysig: Os nad yw testun llawn yr erthygl ar gael bydd angen i chi wneud cais i ddigido (Sut mae gwneud hynny?) bydd dolen i'r bennod wedi'i digido'n cael ei hychwanegu gan staff y llyfrgell i'r llyfrnod Aspire.

Neu

  • Cliciwch ar Creu os hoffech ychwanegu llyfrnod i'w gynnwys ar restr ddarllen yn ddiweddarach ( Sut mae gwneud hynny?)
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 E-Bost: gg@aber.ac.uk